First Minister FEU Letter August 8 (yn Gymraeg)

  • 08 Aug 2024

Wrth i Gymru ddathlu diwylliant a’r iaith Gymraeg ym Mhontypridd yn yr Eisteddfod eleni, mae'r undebau llafur sy’n cynrychioli ysgrifenwyr, cerddorion, perfformwyr, dawnswyr, newyddiadurwyr a gweithwyr proffesiynol y tu ôl i’r llenni a'r sgrin wedi ysgrifennu at Brif Weinidog newydd Cymru yn mynegi eu pryder sylweddol am ddyfodol y celfyddydau a diwylliant yn ein gwlad.

Mae'r cyfuniad o doriadau cyllid, effaith y pandemig, yr argyfwng costau byw ac ecsodus o weithwyr wedi creu amgylchiadau sy’n fygythiad difrifol i'r celfyddydau a diwylliant yng Nghymru. Mae gwariant diwylliannol Llywodraeth Cymru fel cyfran o gyllideb ymhlith yr isaf yn Ewrop, llai na 0.15% o gyfanswm y gwariant cyffredinol, o gymharu â chyfartaledd o 1.5% yn Ewrop. Mae un o'r prif gyllidwyr celfyddydol, Cyngor Celfyddydau Cymru, wedi dioddef toriad mewn termau real o tua 37% yn eu cyllideb ers 2010.

Download the resource

Return to listing