The National Union of Journalists is the voice for journalism and journalists in the UK and Ireland. It was founded in 1907 and has more than 30,000 members working in broadcasting, newspapers, news agencies, magazines, book publishing, public relations, photography, videography and digital media.

 

Introduction

Wales has a long and proud journalism tradition. But the present Covid-19 crisis has hit an industry with underlying health conditions. Welsh newspaper titles had already been hollowed out by cuts to journalist numbers and a lack of investment in journalism before the virus appeared. Quality journalistic content has been a much lower priority than the interests of shareholders, the requirements of investors and the pursuit of profits. When the going was good the publishers creamed off profits of 20-30 per cent, rather than investing in the future. Mergers have severely dented media plurality.

The decline quickened as printed publications started to lose advertising to the internet. And while they moved journalism into digital, the advertising did not follow; particularly hitting local newspapers. Since then Facebook, Google and the other tech giants have taken the newspapers’ content without paying for it and thanked them by hoovering up all the advertising. As the 2019 Cairncross review reported, the number of fulltime frontline journalists working in the UK had fallen from 23,000 in 2007 to 17,000. In that period, newspaper annual advertising spend dropped by 69 per cent (£3.2 billion) and annual circulation revenue declined by 23 per cent (£500 million). The job losses and loss of advertising is now much worse. As government Covid-19 aid schemes run down, the union fears that without urgent action, there could be an avalanche of redundancies and newspaper closures.

 

  1. The output of media organisations across broadcasting, print, radio, new media and others has continued to a varying extent during the crisis. The commissioning and production of broadcast, print and online journalism has moved from studios and newsrooms to kitchen tables and spare bedrooms. That journalism has continued is a testament to the skills and flexibility of our members. The crisis has shown a real need and thirst for trustworthy and reliable news. Viewers and readers have flocked to newspapers, websites and TV, but unfortunately the advertising has tanked at the same time.
  2. The Covid-19 crisis has exposed the problem the Welsh media has in being able to sufficiently serve its population. As the different jurisdictions issued separate guidance, it soon became apparent that getting critical health announcements and messages were hampered because Welsh citizens were getting information from England-based media. The NUJ's Welsh Executive Council has now called on the Welsh government to call a national inquiry into the dissemination of public health messages during Covid-19.
  3. The NUJ has written to every Welsh MP and every Member of the Senedd asking for their support in a campaign against redundancy proposals announced by Reach plc, the largest publisher of newspapers in Wales. On July 10, Reach told more than 90 of its journalists in Wales that they were at risk of losing their jobs because of lost revenues during the lockdown. The union believes the proposals pose a grave threat to Welsh democracy. Reach is by far the largest publisher of newspapers in Wales, with a stable that includes the Western Mail, the Daily Post, the South Wales Echo, the South Wales Evening Post, Wales on Sunday and a number of associated weekly papers, as well as the news websites WalesOnline and North Wales Live. In Cardiff, more than 70 journalists were told their jobs are on a redundancy "at risk" list, while in North Wales the number is 20. The union is deeply concerned with proposals to effectively merge Media Wales – the Cardiff and Swansea operation – with an English division of Reach covering the Midlands, Cheshire and Lincolnshire. There is no longer an editor-in-chief based in Cardiff, and the new cross-border division will be run by a "Marketplace Publisher" based in Birmingham. The editor of the Daily Post was removed from his post at very short notice and the business run by a Marketplace Publisher based in the north west of England. There are plans to integrate the work of journalists working in Wales with the London-based "national" papers, the Daily Mirror, the Daily Express and the Daily Star and their websites. The redundancy proposals are subject to a 45-day consultation period.
  4. Newsquest has cut 25 jobs in Newport and north Wales. Its titles include the Western Telegraph, South Wales Argus, South Wales Guardian, The Leader, Tivyside Advertiser and Pembrokeshire Farmer. The company cut 23 of its 164 positions in Newport, but it is not known which roles will be affected. In North Wales it is cutting two of its five reporters.
  5. BBC Wales is to lose 60 posts in 2021/22; it has already delivered £6m of savings over the past 3 years, partly due to a move to new premises, but still needs to save another £4.5m.
  6. The NUJ surveyed all members at the end of April/beginning of May and found that 45 per cent said their employer had furloughed editorial staff. Of those, more than half (52 per cent) had not had their pay topped up by their employer. A fifth (22 per cent) said their employers made up the full 20 per cent difference between the amount paid by the government. The Westminster government's furloughing scheme has been widely deployed in Wales. Reach plc, which owns the Western Mail, South Wales Echo, Daily Post and South Wales Evening Post, as well as Wales Online and a series of weekly local newspapers has roughly half its editorial staff on furlough at any one time. Newsquest, which owns the South Wales Argus and The Leader, as well as local weeklies, has taken similar measures even proposing redundancies when the furlough scheme was announced, until the NUJ intervened.
  7. Our members have had pay cuts imposed on them – mostly without any consultation with recognised unions. These have hit our members hard, especially after years and years of below-inflation pay rises. At the time of writing the union is backing action for members at Reach titles who are challenging the necessity of these cuts, at a time when we believe the company's cash reserves are £20m.
  8. The National Media Association, which represents the UK's major newspaper publishers, successfully lobbied the DCMS to fund an "All in, All together" campaign to see them through lockdown. This has paid out approximately £40m in return for wrap arounds and other print advertising. Digital-only publications and newspapers that are not daily or weekly were excluded. Unfortunately, the campaign seems to have been geographically tone-deaf, at least in places, with some examples of Welsh newspapers carrying advice for England, which contradicted lockdown rules in Wales.
  9. The Welsh Government recognised this problem and organised an £8,000 grant for each Welsh member of the Independent Community News Network, paid from an existing budget for grants to fund hyperlocal news. In return, the Welsh Government has requested that Welsh guidelines and health messages are given prominence in those titles. In the absence of a pluralistic local press in Wales and increased reliance on social media, it becomes more likely that misinformation, or wrong information which does not clarify differences between policies across the four nations, will take hold. This can have real-world health consequences for Welsh citizens.
  10. Freelance journalists have been hit very hard with work diaries drying up overnight when sport was suspended and major events such as the Hay Festival, Royal Welsh Show, National Eisteddfod and party conferences cancelled. The NUJ survey revealed that freelances feared the impact on their livelihoods will be felt keenly for many months to come – a third said they did not think their income would improve until 2021; 39 per cent said they did not expect work opportunities to improve for three to six months; while 16 per cent said they did not expect to make a living at all following the pandemic.
  11. Many freelances have also found that they have fallen foul of the criteria needed to get access to the Westminster government's Self Employed Income Support Scheme. A key group is PAYE freelances and those who have PAYE income. Over the past 30 years, freelances doing shifts for newspapers, broadcasters, magazines and publishers have been forced by companies, often under the direction of HMRC, to be taxed at source via the PAYE system. These individuals remain self-employed/freelance for the purposes of employment law with no protection or employment rights such as sick pay or maternity leave yet are forced to pay tax and National Insurance Contributions (NICs) at an employee rate. This PAYE income is now considered by HMRC to be 'employee' income rendering those individuals ineligible for the SEISS scheme. Another group is people who work via limited companies/personal service companies – often forced to by companies – and have paid tax and National Insurance via PAYE or have been found to come within IR35 and are taxed at source, and are also ineligible for support.
  12. BBC Wales is required to save £4.5m this financial year and a further £3.5-£4m in the next financial year, as part of a UK wide series of cutbacks due to a loss of income caused by the pandemic. Management estimates 60 posts, representing some 6% of the workforce, will need to go by April next year. Savings this year are likely to come from the cancellation of a significant number of productions such as the Eisteddfod, the Royal Welsh Show and the Cardiff Half Marathon. Further cuts to programme budgets must be expected.
  13. An ongoing review of its news and sport operation, almost a third of BBC Wales's annual spend, will also now look for cost savings. Detailed numbers for department-by-department job losses are expected in October once an assessment has been made of the voluntary redundancy requests received as part of the BBC-wide scheme. BBC Wales has already made one notable change by suspending its Welsh television news bulletins at breakfast time, depriving viewers of information about the Welsh Government's distinct response to the crisis. However, it does offer live daily coverage of the daily ministerial press conference, which it also supplies to S4C.
  14. The BBC had already been required to provide the majority of S4C's funding, following a drastic cut in the finance provided by the DCMS to the Welsh-language free-to-air television channel. The net affect has been to cut nearly £20 million from S4C's annual budget over the past decade. The remaining UK government funding, worth £7million a year, will end in 2022 and funding will be transferred to the BBC. The NUJ's Welsh Executive Council (WEC) said: "It is essential that this money is replaced as further budget cuts would inevitably undermine S4C's credibility with its audience. Programme quality will suffer and the already excessive number of repeats would rise further. The WEC is under no illusion that it will be difficult for the BBC to find the extra money." The latest cuts make the situation even worse.
  15. The NUJ continues to campaign for the UK Government to accept its responsibility to fund free TV licences for over-75s. Since it handed responsibility to the BBC earlier this year, it has been costing £40m a month, with any solution postponed until after the crisis. Responding to the BBC Wales cuts and similar cuts announced by the BBC in other parts of the UK, Michelle Stanistreet, NUJ general secretary, said: "The BBC is at a pivotal point in its history. Already faced with achieving cuts of £800m, the additional Covid-19 funding gap of £125m will lead to swingeing cuts to jobs, programming and services. At a time when our public service broadcaster has brilliantly risen to the challenge of a global pandemic, providing vital information and news to communities faced with an unprecedented health crisis, it is now having to pay the cost for that public service by losing experienced talented staff, and curtailing important and valuable news and content. The government should step forward to fill this Covid-19 funding gap, rather than inflict further cuts on an already financially challenged BBC".
  16. ITV Wales has furloughed hardly any of its staff and made no cuts to its news output. Its other programmes have been cut to one current affairs show a week plus a further weekly programme sold to S4C. ITV plc's advertising income fell by 42% in April. It cancelled its final dividend, announced a recruitment and salary freeze and suspended the employee bonus scheme. It plans to save £30 million on overheads, on top of £30 million previously announced. Capital expenditure will also be cut by £30 million. The programme budget will be cut by £100 million. The company has borrowing arrangements which enable it to take on over £800 million of additional debt.
  17. There is a real danger that financial pressures across newspapers, broadcasting and new media will damage efforts to increase diversity of background, geography, language and identity and the range of perspectives that it brings to public interest journalism. This increases relevance and engagement and shines a light on stories that could otherwise be overlooked but are important to different communities. As the UK Government stated in its response to the Cairncross Review, "'Public interest' news and journalism should reflect the diversity of the United Kingdom… we recognise that for a number of newspapers facing very tough financial constraints it is challenging to do more. However, consistent with efforts to drive diversity across the economy, the government considers that improving the diversity of newsrooms could also have a positive impact on the sustainability of the industry by helping news publishers improve their appeal to currently underserved and under-represented audiences. Through diversity of perspectives, this could in turn lead to an increase in readership and associated revenues".
  18. NUJ's News Recovery Plan: the present crisis has shown just how vital it is to have a news media providing accurate information, how desperate people are for trustworthy content and how essential it is that the government and authorities are held to account. In her report, Michelle Stanistreet, NUJ general secretary, has set out a bold set of measures and interventions to support and protect jobs and quality journalism. She said: "This is not and cannot be about the preservation of the status quo. The emergency intervention needed now can only be the first steps towards a news reimagined. We need a triage plan of intervention and investment. That will involve action to stem the immediate damage being wrought, and longer-term measures to heal historic wounds. Our aim is to create a healthy diverse press, focussed squarely on the public good, one that can be sustained now and into the future. That's why we want governmental commitments to a range of actions – some immediate and some when the worst of this crisis is over – that will create a news industry firmly rooted in the public interest journalism which will deepen public engagement in our democratic structures.
  19. Central to funding such a News Recovery Plan is an urgent windfall tax on the tech giants whose platforms suck up editorial content, without making any contribution to its production. According to analysis by Techwatch earlier this year, the top five tech companies generated over £8.1bn from UK customers in 2018, but collectively only paid around £237m in taxes – an effective tax rate of just 2.9 per cent, meaning around £1.3bn in tax was avoided. Achieving this would be straightforward – the UK has committed to introduce a 2 per cent Digital Services Tax from April 2020 on the revenues of large businesses providing internet search engines, social media platforms and online marketplaces to UK users. Given the current crisis, that tax should be tripled to 6 per cent and the proceeds used to fund a News Recovery Plan and ensure the tech giants play a significant role in the preservation of a sector that is vital to our democracy. The Welsh government should back this windfall tech tax.
  20. In response to one of the recommendations of the Cairncross Review on the sustainability of quality press, the DCMS made £2m available, to be administered by the innovation foundation Nesta to provide grants for start-ups and news models of journalism. A similar fund could be made available for Wales by the Welsh government. 21. One of the recommendations in the NUJ's recovery plan is for vouchers to be made available for young people so they can buy subscriptions to newspapers/websites. Wales is well placed to pilot such a scheme, particularly as 16-year-olds have the vote. Media literacy is a very important aspect of the plan and introducing young people who have a stake in the democratic process, yet largely rely on Facebook and other social platforms for news and information, to more trusted sources of news would be of benefit. It would also make news organisations think more carefully about making their offering youth friendly.
  21. The News Recovery Plan sets out a list of short-term measures to sustain the press and media through the Covid-19 crisis and longer-term aims to reinvigorate the industry into a reimagined future. The short-term include:
    • A windfall tax of 6 per cent on the tech giants, using the Digital Services Tax, towards funding a News Recovery Plan.
    • Tax credits and interest free loans to support journalist jobs, for frontline reporters covering the Covid-19 crisis and recovery.
    • No public money for firms making redundancies, cutting pay, giving executive bonuses or blocking trade union organisation.
    • Strategic investment in government advertising, including the hyperlocal sector, involving central and local governments and public bodies. • Further funding by NESTA's Future News Fund of innovative, public interest journalism and a similar scheme in Ireland
    • Free vouchers for online or print subscriptions to all 18-and-19-year olds and tax credits for households with subscriptions.
  22. The medium-term measures include:
    • Establishment of a government-funded Journalism Foundation – as recommended in the UK's Cairncross Review – to invest in local news and innovative journalistic projects.
    • Confer "asset of community value" status on local newspapers – like community pubs – ensuring that titles are preserved for potential community ownership.
    • Tax breaks, rate relief and other financial support for local social enterprises and journalistic cooperatives taking over titles from major regional operators, running them as not-for-profit enterprises.
    • Employee representation of 25 per cent on executive boards in receipt of public funding.
    • Independent sustainable funding of public service broadcasting that protects its universality and prevents government interference.
    • Nationwide media literacy strategy to tackle disinformation and fake news.
    • Reform of media ownership rules, with a strengthened public interest test.
    • Training that opens up access to journalism, including apprentices for school-leavers.
    • Protection for whistleblowers and monitoring the potential impact of surveillance technologies being considered in response to Covid-19 challenge and easing of lockdowns.
    • Support for a global framework to protect and promote journalism and improve press freedom.
COVER: From Health Crisis to Good News
From Health Crisis to Good News

A recovery plan for the news industry by the NUJ.

16 April 2020

 

Undeb Cenedlaethol y Newyddiadurwyr yw'r llais sy'n cynrychioli newyddiaduraeth a newyddiadurwyr yn y DU ac Iwerddon. Cafodd ei sefydlu yn 1907 ac mae ganddo dros 30,000 o aelodau sy’n gweithio ym myd darlledu, papurau newydd, asiantaethau newyddion, cylchgronau, cyhoeddi llyfrau, cysylltiadau cyhoeddus, ffotograffiaeth, fideograffiaeth a'r cyfryngau digidol.

Cyflwyniad

Mae gan Gymru draddodiad newyddiadurol hir a balch. Ond mae'r argyfwng Covid-19 presennol wedi taro diwydiant sy'n dioddef o gyflyrau iechyd sylfaenol. Roedd teitlau papurau newydd Cymreig wedi cael eu hergydio'n barod, cyn i'r feirws ymddangos, gan doriadau i niferoedd y newyddiadurwyr a diffyg buddsoddiad mewn newyddiaduraeth. Mae cynnwys newyddiadurol o safon wedi cael blaenoriaeth llawer yn is na buddiannau'r cyfranddalwyr, gofynion y buddsoddwyr a mynd ar ôl elw. Pan oedd pethau'n llewyrchus, roedd y cyhoeddwyr yn pocedu elw o 20-30 y cant yn hytrach na buddsoddi yn y dyfodol. Mae uno cwmnïau wedi tolcio lluosogrwydd y cyfryngau'n ddifrifol hefyd.

Cyflymodd y dirywiad wrth i gyhoeddiadau printiedig ddechrau colli eu hysbysebu i'r rhyngrwyd. A phan aethant ati i symud newyddiaduraeth i'r byd digidol, ni wnaeth yr hysbysebu ddilyn – gan ergydio papurau newydd lleol yn arbennig. Ers hynny mae Facebook, Google a'r cewri technolegol eraill wedi defnyddio cynnwys y papurau newydd heb dalu amdano, ac yna dangos ei diolch drwy draflyncu'r holl hysbysebu. Fel yr adroddwyd yn Adolygiad Cairncross 2019, roedd nifer y newyddiadurwyr rheng flaen amser llawn yn gweithio yn y DU wedi gostwng o 23,000 yn 2007 i 17,000. Yn y cyfnod hwnnw, gostyngodd y gwariant blynyddol ar hysbysebu mewn papurau newydd o 69 y cant (£3.2 biliwn), a gostyngodd y refeniw cylchrediad blynyddol o 23 y cant (£500 miliwn). Bellach mae'r colledion o ran swyddi a cholli hysbysebu llawer yn waeth. Wrth i gynlluniau Covid-19 y llywodraeth ddwyn i ben, os na welir gweithredu brys, mae'r undeb yn ofni y bydd llif o swyddi'n diflannu a phapurau newydd yn cau.

 
  1. Mae allbwn sefydliadau'r cyfryngau mewn darlledu, print, radio, cyfryngau newydd ac eraill wedi parhau i raddau amrywiol yn ystod yr argyfwng. Mae comisiynu a chynhyrchu darlledu, print a newyddiaduraeth ar-lein wedi symud o stiwdios ac ystafelloedd newyddion i fyrddau cegin ac ystafelloedd gwely sbâr. Mae'r ffaith fod newyddiaduraeth wedi llwyddo i ddal ati yn deyrnged i sgiliau a hyblygrwydd ein haelodau. Mae'r argyfwng wedi dangos gwir angen ac awydd am newyddion dibynadwy y gellir ymddiried ynddynt. Mae gwylwyr a darllenwyr wedi heidio at bapurau newydd, gwefannau a theledu, ond yn anffodus mae hysbysebu wedi gostwng ar yr un pryd.
  2. Mae'r argyfwng Covid-19 wedi amlygu'r anawsterau mae'r cyfryngau yng Nghymru yn eu hwynebu wrth iddynt geisio gwasanaethu ei phoblogaeth yn ddigonol. Wrth i'r gwahanol awdurdodaethau gyhoeddi canllawiau ar wahân, daeth yn amlwg yn fuan bod lledaenu cyhoeddiadau a negeseuon hanfodol ar iechyd yn cael ei rwystro oherwydd bod dinasyddion Cymru'n derbyn gwybodaeth gan y cyfryngau yn Lloegr. Bellach, mae Cyngor Gweithredu Cymru yr NUJ wedi galw ar lywodraeth Cymru i sefydlu ymchwiliad cenedlaethol i'r ffordd y cafodd negeseuon iechyd y cyhoedd eu lledaenu yn ystod Covid-19.
  3. Mae'r NUJ wedi ysgrifennu at bob AS Cymreig a phob Aelod o'r Senedd yn gofyn iddynt gefnogi'r ymgyrch i wrthwynebu'r cynigion dileu swyddi a gyhoeddwyd gan Reach ccc, y cyhoeddwr papurau newydd mwyaf yng Nghymru. Ar 10 Gorffennaf, dywedodd Reach wrth fwy na 90 o newyddiadurwyr yng Nghymru eu bod mewn perygl o golli eu swyddi oherwydd y refeniwiau a gollwyd yn ystod y cyfyngiadau symud. Mae'r undeb o'r gred bod y cynigion yn fygythiad difrifol i ddemocratiaeth yng Nghymru. Reach yw'r cyhoeddwr papurau newydd mwyaf o bell ffordd yng Nghymru, gyda stabl sy'n cynnwys y Western Mail, Daily Post, South Wales Echo, South Wales Evening Post, Wales on Sunday a nifer o bapurau wythnosol cysylltiedig, ynghyd â'r gwefannau newyddion WalesOnline a North Wales Live. Yng Nghaerdydd, clywodd fwy na 70 o newyddiadurwyr bod eu swydd ar y rhestr "mewn perygl" o ran dileu swyddi, gydag 20 yng Ngogledd Cymru yn cael yr un newyddion. Mae'r undeb yn pryderu'n fawr am y cynigion hyn a fydd, i bob pwrpas, yn uno Cyfryngau Cymru – sef gweithrediad Caerdydd ac Abertawe – ag adran Seisnig Reach sy'n cwmpasu Canolbarth Lloegr, Swydd Gaer a Swydd Lincoln. Nid oes prif olygydd yng Nghaerdydd bellach, a bydd yr adran drawsffiniol newydd yn cael ei rhedeg gan "Gyhoeddwr Marchnad" a leolir yn Birmingham. Diswyddwyd golygydd y Daily Post ar rybudd byr iawn ac mae'r busnes yn cael ei redeg gan Gyhoeddwr Marchnad a leolir yng ngogledd orllewin Lloegr. Mae cynlluniau ar y gweill i gyfuno gwaith y newyddiadurwyr sy'n gweithio yng Nghymru â'r papurau "cenedlaethol" a leolir yn Llundain, y Daily Mirror, Daily Express a'r Daily Star a'u gwefannau. Mae'r cynigion dileu swyddi yn destun cyfnod ymgynghori o 45 diwrnod.
  4. Mae Newsquest wedi torri 25 o swyddi yng Nghasnewydd a Gogledd Cymru. Mae ei deitlau'n cynnwys y Western Telegraph, South Wales Argus, South Wales Guardian, The Leader, Tivyside Advertiser a'r Pembrokeshire Farmer. Torrodd y cwmni 23 o'i 164 o swyddi yng Nghasnewydd, ond mae'n anhysbys ar ba rolau bydd hyn yn cael effaith. Yng Ngogledd Cymru mae'n torri dau o'i bum gohebydd.
  5. Bydd BBC Cymru yn colli 60 swydd yn 2021/22; mae eisoes wedi cyflawni arbedion o £6m dros y 3 blynedd diwethaf, yn rhannol oherwydd symud i adeiladau newydd, ond mae'n rhaid iddo arbed £4.5m yn ychwanegol.
  6. Cynhaliodd yr NUJ arolwg ar ei holl aelodau ddiwedd Ebrill/dechrau Mai a chafwyd bod 45 y cant yn dweud bod eu cyflogwr wedi ffyrlo staff golygyddol. O blith y rhain, roedd mwy na hanner (52 y cant) yn dweud nad oedd eu cyflogwr wedi talu gweddill eu cyflog. Dywedodd un o bob pump (22 y cant) bod eu cyflogwr wedi talu'r gwahaniaeth o 20 y cant ar ben y swm a dalwyd gan y llywodraeth. Mae cynllun ffyrlo llywodraeth San Steffan wedi cael ei ddefnyddio'n helaeth yng Nghymru. Mae Reach plc, sy'n berchen ar y Western Mail, South Wales Echo, Daily Post a'r South Wales Evening Post, ynghyd â Wales Online a chyfres o bapurau newydd wythnosol lleol, wedi ffyrlo tua hanner ei staff golygyddol ar unrhyw adeg benodol. Mae Newsquest, sy'n berchen ar y South Wales Argus a The Leader, ynghyd â phapurau newydd wythnosol lleol, wedi mabwysiadu mesurau tebyg, a hyd yn oed crybwyll dileu swyddi pan gafodd y cynllun ffyrlo ei gyhoeddi – nes i'r NUJ ymyrryd.
  7. Mae ein haelodau wedi dioddef toriadau cyflog – gan amlaf heb unrhyw ymgynghoriad ag undebau cydnabyddedig. Mae'r rhain wedi bod yn ergyd drom i'n haelodau, yn enwedig ar ôl blynyddoedd maith o godiadau cyflog is na chwyddiant. Ar adeg ysgrifennu, mae'r undeb yn cefnogi'r gweithredu gan aelodau'r teitlau Reach sy'n herio'r angen am y toriadau hyn ar adeg pan gredwn fod gan y cwmni gronfa wrth gefn o £20m.
  8. Bu Cymdeithas Genedlaethol y Cyfryngau, sy'n cynrychioli prif gyhoeddwyr papurau newydd y DU, yn llwyddiannus yn lobïo'r Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) i ariannu'r ymgyrch "All in, All together" i'w helpu yn ystod y cyfyngiadau symud. Mae'r gronfa hon wedi talu tua £40m yn gyfnewid am amlapiadau a hysbysebu print arall. Nid oedd cyhoeddiadau a phapurau newydd sy'n ddigidol yn unig, ac nad ydynt yn rhai dyddiol neu wythnosol, yn gymwys i dderbyn cymorth. Yn anffodus, mae'n ymddangos bod yr ymgyrch yn dôn-fyddar yn ddaearyddol, mewn rhai mannau o leiaf, gydag enghreifftiau o bapurau newydd yng Nghymru yn cyhoeddi cyngor ar gyfer Lloegr, a oedd yn groes i'r rheolau ar y cyfyngiadau symud yng Nghymru.
  9. Cydnabu Llywodraeth Cymru'r broblem hon a threfnu grant o £8,000 ar gyfer pob aelod Cymreig o'r Rhwydwaith Newyddion Cymunedol Annibynnol, a dalwyd o gyllideb sy'n bodoli eisoes ar gyfer grantiau i ariannu newyddion hyperleol. Yn gyfnewid am hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn am i'r canllawiau a'r negeseuon iechyd sy'n berthnasol i Gymru gael amlygrwydd yn y teitlau hynny. Yn absenoldeb gwasg leol amlblwyfol yng Nghymru, a dibyniaeth gynyddol ar y cyfryngau cymdeithasol, mae'n dod yn fwy tebygol y bydd camhysbysrwydd, neu wybodaeth anghywir nad yw'n egluro'r gwahaniaethau rhwng polisïau ar draws y pedair cenedl, yn mynd yn drech. Gall hyn gael goblygiadau iechyd arwyddocaol ar gyfer dinasyddion Cymru.
  10. Mae newyddiadurwyr llawrydd wedi dioddef ergyd drom wrth i'w dyddiaduron gwaith wagio dros nos oherwydd gwahardd chwaraeon a chanslo digwyddiadau mawr fel Gŵyl y Gelli Gandryll, Sioe Frenhinol Cymru, yr Eisteddfod Genedlaethol a chynadleddau pleidiau. Dangosodd arolwg yr NUJ bod newyddiadurwyr llawrydd yn ofni y bydd yr effaith ar eu bywoliaeth yn parhau i fod yn ddifrifol am fisoedd i ddod – dywedodd traean nad oeddent yn credu y byddai eu hincwm yn gwella tan 2021; nid oedd 39 y cant yn disgwyl y byddai eu cyfleoedd gwaith yn gwella am dri i chwe mis; a dywedodd 16 y cant nad oeddent yn disgwyl ennill bywoliaeth o gwbl ar ôl y pandemig.
  11. Mae llawer o newyddiadurwyr llawrydd wedi darganfod hefyd eu bod wedi methu'r meini prawf angenrheidiol ar gyfer cael at y Cynllun Cymorth Incwm i'r Hunangyflogedig (SEISS) gan lywodraeth San Steffan. Mae newyddiadurwyr llawrydd yn y Cynllun Talu Wrth Ennill (PAYE) a'r rhai hynny sy'n derbyn incwm PAYE yn un o'r grwpiau allweddol. Dros y 30 mlynedd diwethaf, mae newyddiadurwyr llawrydd sy'n gweithio sifftiau i bapurau newydd, darlledwyr, cylchgronau a chyhoeddwyr, wedi cael eu gorfodi gan gwmnïau, yn aml dan gyfarwyddyd Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (CThEM), i dalu treth wrth y ffynhonnell drwy'r system PAYE. Mae'r unigolion hyn yn parhau i fod yn hunangyflogedig/llawrydd at ddibenion cyfraith gyflogaeth, heb unrhyw sicrwydd neu hawliau cyflogaeth fel cyflog salwch neu absenoldeb mamolaeth. Ond eto maent yn cael eu gorfodi i dalu treth a Chyfraniadau Yswiriant Gwladol (CYGau) ar gyfradd gweithiwr. Mae CThEM bellach yn ystyried yr incwm PAYE yn incwm ‘gweithiwr', sy'n golygu nad yw'r unigolion hynny'n gymwys ar gyfer y cynllun SEISS. Grŵp arall yw'r bobl sy'n gweithio drwy gwmnïau cyfyngedig/ cwmnïau gwasanaeth personol – yn aml dan orfodaeth cwmnïau – ac sydd wedi talu treth ac Yswiriant Gwladol drwy PAYE, neu y dyfarnwyd eu bod yn syrthio o fewn IR35 ac yn cael eu trethu wrth y ffynhonnell. Mae'r rhain hefyd yn anghymwys i dderbyn cymorth.
  12. Mae'n rhaid i BBC Cymru arbed £4.5m yn ystod y flwyddyn ariannol hon a £3.5-£4m yn ychwanegol yn y flwyddyn ariannol nesaf, fel rhan o gyfres o doriadau ledled y DU oherwydd yr incwm a gollwyd yn ystod y pandemig. Mae'r rheolwyr yn amcangyfrif y bydd yn rhaid dileu 60 o swyddi, sef tua 6% o'r gweithlu, erbyn mis Ebrill y flwyddyn nesaf. Gwelir arbedion eleni oherwydd canslo nifer sylweddol o gynyrchiadau fel yr Eisteddfod, Sioe Frenhinol Cymru a Hanner Marathon Caerdydd. Mae'n rhaid disgwyl toriadau ychwanegol i gyllidebau rhaglenni.
  13. O hyn ymlaen, bydd adolygiad parhaus ar weithrediad newyddion a chwaraeon BBC Cymru, sef bron traean o'i wariant blynyddol, yn chwilio am arbedion cost hefyd. Bydd union niferoedd y swyddi a ddilëir ym mhob adran yn cael eu cyhoeddi ym mis Hydref, ar ôl asesu'r ceisiadau am Ddiswyddo Gwirfoddol a dderbynnir fel rhan o gynllun cyffredinol y BBC. Mae BBC Cymru wedi gwneud un newid nodedig yn barod drwy atal ei fwletinau newyddion amser brecwast ar y teledu yng Nghymru. Mae hyn wedi amddifadu gwylwyr o wybodaeth am ymateb gwahanol Llywodraeth Cymru i'r argyfwng. Fodd bynnag, mae'n darlledu'r gynhadledd ddyddiol i'r wasg gan weinidogion, ac mae'n darparu hwn i S4C hefyd.
  14. Mae'r BBC eisoes wedi gorfod darparu'r rhan fwyaf o gyllid S4C, yn sgil y toriad llym i'r arian y mae'r DCMS yn ei roi i'r sianel deledu Gymraeg am ddim. Yr effaith net yw bod bron £20 miliwn wedi cael ei dorri o gyllid blynyddol S4C dros y degawd diwethaf. Bydd gweddill y cyllid gan lywodraeth y DU, sef £7 miliwn y flwyddyn, yn dod i ben yn 2022 a bydd cyllido'n cael ei drosglwyddo i'r BBC. Meddai Cyngor Gweithredu Cymru (WEC) yr NUJ: “Mae'n hanfodol bod yr arian hwn yn cael ei adfer gan y byddai toriadau cyllideb pellach yn anochel yn tanseilio hygrededd S4C â'i chynulleidfa. Bydd safon y rhaglenni'n dioddef a byddai nifer yr ailddarllediadau, sydd eisoes yn ormodol, yn codi ymhellach. Mae'r WEC yn deall yn berffaith y bydd y BBC yn cael anhwaster i ddod o hyd i arian ychwanegol.” Oherwydd y toriadau diweddaraf, mae'r sefyllfa'n waeth nag erioed.
  15. Mae'r NUJ yn parhau i ymgyrchu i berswadio Llywodraeth y DU i dderbyn ei chyfrifoldeb i ariannu trwyddedau teledu am ddim i'r rhai sydd dros 75 oed. Ers iddi drosglwyddo'r cyfrifoldeb i'r BBC yn gynharach eleni, mae wedi costio £40m y mis, ac mae unrhyw ymgais i ddod o hyd i ddatrysiad wedi cael ei ohirio tan ar ôl yr argyfwng. Mewn ymateb i'r toriadau i BBC Cymru a rhai tebyg a gyhoeddwyd gan y BBC mewn rhannau eraill o'r DU, dywedodd Michelle Stanistreet, Ysgrifennydd Cyffredinol yr NUJ: “Mae'r BBC mewn man argyfyngus yn ei hanes. Gan ei fod eisoes yn wynebu'r dasg o gyflawni toriadau o £800m, bydd y bwlch cyllid ychwanegol o £125m oherwydd Covid-19 yn arwain at doriadau llym o ran swyddi, rhaglennu a gwasanaethau. Ar adeg pan fod ein darlledwr gwasanaeth cyhoeddus wedi ymateb yn wych i her y pandemig byd-eang, gan ddarparu gwybodaeth a newyddion hanfodol i gymunedau a wynebai argyfwng iechyd digynsail, mae bellach yn gorfod talu'r gost am y gwasanaeth cyhoeddus hwnnw trwy golli staff dawnus, profiadol a chwtogi newyddion a chynnwys pwysig a gwerthfawr. Dylai'r llywodraeth gamu ymlaen i lenwi'r bwlch cyllid Covid-19 hwn, yn hytrach na gosod toriadau ychwanegol ar y BBC sydd mewn sefyllfa ariannol heriol yn barod”.
  16. Nid yw ITV Cymru wedi ffyrlo braidd neb o'i staff ac nid yw wedi cwtogi ei allbwn newyddion o gwbl. Mae ei raglenni eraill wedi cael eu torri i un rhaglen materion cyfoes yr wythnos ynghyd â rhaglen wythnosol arall a werthir i S4C. Gostyngodd incwm hysbysebu ITV plc o 42% ym mis Ebrill. Canslodd ei ddifidend terfynol, cyhoeddodd ei fod yn rhewi recriwtio a chyflogau, ac ataliodd y cynllun bonws i weithwyr. Mae'n bwriadu arbed £30 miliwn ar orbenion, ar ben y £30 miliwn a gyhoeddwyd yn barod. Bydd gwariant cyfalaf yn cael ei dorri o £30 miliwn hefyd. Bydd y gyllideb rhaglenni'n cael ei thorri o £100 miliwn. Mae gan y cwmni drefniadau benthyca sy'n ei alluogi i ymgymryd â thros £800 miliwn mewn dyled ychwanegol.
  17. Mae gwir berygl y bydd y pwysau ariannol ar bapurau newydd, darlledu a'r cyfryngau newydd yn amharu ar yr ymdrechion i wella amrywiaeth o ran cefndir, daearyddiaeth, iaith a hunaniaeth, a'r amrywiaeth o bersbectifau a ddaw yn sgil hyn ar gyfer newyddiaduraeth er budd y cyhoedd. Mae amrywiaeth yn cynyddu perthnasedd ac ymgysylltu ac yn taflu goleuni ar storïau a allai gael eu hanwybyddu fel arall, ond sy'n bwysig i wahanol gymunedau. Fel y dywedodd Llywodraeth y DU yn ei hymateb i Adolygiad Cairncross, “Dylai newyddion a newyddiaduraeth ‘er budd y cyhoedd' adlewyrchu'r amrywiaeth sy'n bodoli yn y Deyrnas Unedig ... rydym yn cydnabod bod nifer o bapurau newydd sy'n wynebu cyfyngiadau ariannol llym iawn yn cael anhawster i wneud mwy. Fodd bynnag, yn unol â'r ymdrechion i ysgogi amrywiaeth ar draws yr economi, mae'r llywodraeth yn ystyried y gallai gwella amrywiaeth mewn ystafelloedd newyddion gael effaith cadarnhaol ar gynaliadwyedd y diwydiant hefyd, drwy helpu cyhoeddwyr newyddion i wella'u hapêl i gynulleidfaoedd nad ydynt ar hyn o bryd yn cael cynrychiolaeth na gwasanaeth digonol. Gallai amrywiaeth o ran persbectifau arwain at gynnydd mewn darllenwyr a'r refeniwiau cysylltiedig”.
  18. Cynllun Adfer Newyddion yr NUJ: mae'r argyfwng presennol wedi dangos pa mor hanfodol yw cael cyfryngau newyddion sy'n darparu gwybodaeth gywir, pa mor daer mae pobl am gynnwys dibynadwy, a pha mor hanfodol yw hi bod y llywodraeth a'r awdurdodau yn cael eu galw i gyfrif. Yn ei hadroddiad, mae Michelle Stanistreet, Ysgrifennydd Cyffredinol yr NUJ, wedi cyflwyno cyfres feiddgar o fesurau ac ymyriadau i gefnogi a diogelu swyddi a newyddiaduraeth o safon. Meddai: “Nid yw hyn yn golygu, ac ni all olygu, ein bod yn glynu wrth y sefyllfa fel ag y mae. Mae'r ymyrraeth frys sydd ei hangen nawr ond yn gam cyntaf i gyfeiriad newyddion sydd wedi eu hailddychmygu. Mae angen cynllun brysbennu o ymyrraeth a buddsoddiad arnom. Bydd hynny'n cynnwys gweithredu i atal y difrod presennol, a mesurau tymor hirach i wella clwyfau hanesyddol. Ein nod yw creu gwasg amrywiol, iach sy'n canolbwyntio'n gadarn ar fudd y cyhoedd, gwasg sy'n gynaliadwy nawr ac yn y dyfodol. Dyna pam rydym yn galw am i'r llywodraeth ymrwymo i gyflwyno cyfres o gamau – rhai yn y dyfodol agos, a rhai eraill pan fydd y gwaethaf o'r argyfwng hwn wedi mynd heibio – a fydd yn creu diwydiant newyddion sydd wedi'i wreiddio'n gadarn mewn newyddiaduraeth er budd y cyhoedd ac a fydd yn cryfhau ymgysylltiad y cyhoedd â'n strwythurau democrataidd.
  19. Mae treth ffawdelw frys ar y cewri technolegol yn greiddiol i gyllido'r cyfryw Gynllun Adfer Newyddion, gan fod eu platfformau'n traflyncu cynnwys golygyddol heb wneud unrhyw gyfraniad at eu cynhyrchu. Yn ôl dadansoddiad gan Techwatch yn gynharach eleni, cynhyrchodd y pum cwmni technolegol mwyaf dros £8.1bn gan gwsmeriaid yn y DU yn 2018, ond gyda'i gilydd talont £237m yn unig mewn trethi, sef cyfradd dreth effeithiol o 2.9 y cant, gan olygu bod tua £1.3bn mewn trethi wedi cael eu hosgoi. Byddai cyflawni hyn yn syml – o Ebrill 2020, mae'r DU wedi ymrwymo i gyflwyno Treth ar Wasanaethau Digidol o 2 y cant ar refeniwiau busnesau mawr sy'n darparu peiriannau chwilio ar y rhyngrwyd, platfformau cyfryngau cymdeithasol a marchnadoedd ar-lein i ddefnyddwyr yn y DU. O ystyried yr argyfwng presennol, dylai'r dreth honno gael ei threblu i 6 y cant gan ddefnyddio'r derbyniadau i ariannu Cynllun Adfer Newyddion a sicrhau bod y cewri technolegol yn chwarae rhan sylweddol yn diogelu sector sy'n hanfodol i'n democratiaeth. Dylai Llywodraeth Cymru gefnogi'r dreth ffawdelw hon ar dechnoleg.
  20. Mewn ymateb i un o argymhellion Adolygiad Cairncross ar gynaliadwyedd gwasg o safon, rhoddodd y DCMS £2 filiwn, i'w weinyddu gan sefydliad arloesedd NESTA, i ddarparu grantiau ar gyfer cychwyn busnesau a modelau newyddion mewn newyddiaduraeth. Gallai Llywodraeth Cymru ddarparu cronfa debyg yng Nghymru.
  21. Un o'r argymhellion yng nghynllun adfer yr NUJ yw rhoi talebau i bobl ifanc fel y gallant brynu tanysgrifiadau i bapurau newydd/gwefannau. Mae Cymru mewn safle da i gynnal cynllun peilot ar hyn, yn enwedig am fod gan bobl ifanc 16 oed yr hawl i bleidleisio. Mae llythrennedd o ran y cyfryngau yn agwedd bwysig iawn o'r cynllun a byddai cyflwyno ffynonellau newyddion mwy dibynadwy i bobl ifanc sy'n cyfrannu at y broses ddemocrataidd yn fuddiol, gan eu bod yn dibynnu i raddau helaeth ar Facebook a phlatfformau cymdeithasol eraill am newyddion a gwybodaeth. Byddai hefyd yn peri i sefydliadau newyddion roi ystyriaeth fwy gofalus i greu cynnig sy'n ddeniadol i bobl ifanc.
  22. Mae'r Cynllun Adfer Newyddion yn cyflwyno rhestr o fesurau tymor byr i gynnal y wasg a'r cyfryngau trwy'r argyfwng Covid-19 a nodau tymor hirach a anelir at ailrymuso'r diwydiant ar gyfer dyfodol a ailddychmygir. Mae'r rhai tymor byr yn cynnwys:
    • Treth ffawdelw o 6 y cant ar y cewri technolegol i helpu i ariannu Cynllun Adfer Newyddion, drwy gyfrwng y Dreth ar Wasanaethau Digidol.
    • Credydau treth a benthyciadau di-log i gefnogi swyddi newyddiadurwyr, ar gyfer y gohebwyr rheng flaen sy'n adrodd ar yr argyfwng Covid-19 a'r adferiad.
    • Dim arian cyhoeddus i gwmnïau sy'n dileu swyddi, torri cyflogau, rhoi taliadau bonws i weithredwyr, neu sy'n gwahardd sefydliadau undeb llafur.
    • Buddsoddiad strategol mewn hysbysebu llywodraethol, yn cynnwys y sector hyperleol – llywodraethau canolog a lleol, a chyrff cyhoeddus i fod ynghlwm.
    • Cyllid ychwanegol gan Gronfa Newyddion y Dyfodol NESTA i newyddiaduraeth flaengar, er budd y cyhoedd, a chynllun tebyg yn Iwerddon
    • Talebau am ddim ar gyfer tanysgrifiadau ar-lein neu brint i'r holl bobl ifanc 18 a 19 mlwydd oed a chredydau treth i gartrefi â thanysgrifiadau.
  23. Mae'r mesurau tymor canolig yn cynnwys:
    • Creu Sefydliad Newyddiaduraeth a ariennir gan y llywodraeth – yn unol ag argymhelliad Adolygiad Cairncross yn y DU – i fuddsoddi mewn newyddion lleol a phrosiectau newyddiadurol blaengar.
    • Dyfarnu statws “ased o werth cymunedol” i bapurau newydd lleol – fel i dafarnau cymunedol – gan sicrhau bod teitlau'n cael eu diogelu ar gyfer perchenogaeth gymunedol bosibl.
    • Cymhellion treth, rhyddhad ardrethi a chymorth ariannol arall i fentrau cymdeithasol a chwmnïau cydweithredol newyddiadurol lleol sy'n cymryd teitlau drosodd oddi wrth weithredwyr rhanbarthol, ac yn eu rhedeg fel mentrau nid-er-elw.
    • Cynrychiolaeth o 25 y cant i weithwyr ar fyrddau gweithredwyr sy'n derbyn cyllid cyhoeddus.
    • Rhoi cyllid cynaliadwy, annibynnol i ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus er mwyn diogelu ei gyffredinolrwydd ac atal ymyrraeth gan y llywodraeth.
    • Strategaeth genedlaethol ar gyfer llythrennedd yn y cyfryngau i fynd i'r afael â thwyllwybodaeth a newyddion ffug.
    • Diwygio’r rheolau perchenogaeth ar y cyfryngau, drwy brawf budd y cyhoedd cryfach.
    • Hyfforddiant sy'n gwella mynediad at newyddiaduraeth, yn cynnwys prentisiaethau ar gyfer disgyblion sy'n gadael ysgol.

       

    • Diogelu chwythwyr chwiban a monitro effaith arfaethedig y technolegau gwyliadwriaeth sydd dan ystyriaeth mewn ymateb i her Covid-19 a llacio’r cyfyngiadau symud.
    • Cefnogaeth i fframwaith byd-eang sy’n diogelu a hybu newyddiaduraeth ac yn gwella rhyddid y wasg.
COVER: From Health Crisis to Good News
From Health Crisis to Good News

A recovery plan for the news industry by the NUJ.

16 April 2020